Progress Update on Responsible Adventure
The overarching objective of the Responsible Adventure project is to promote North Wales as a leader in sustainable tourism. It aims to attract additional visitors in a way which is environmentally sustainable and considerate to local communities by maximising the social, economic and cultural benefits to the region.
This is a multi-element project that forms part of a sustainable and eco-tourism package to develop a new offering in the North Wales landscape. This includes:
- Cable Car (Zip World Llechwedd)
- Slate Explorer ‘Luge’ (Zip World Llechwedd)
- Swing (Zip World Penrhyn Quarry)
- eBus Network (linking Regional Transport Hubs, Zip World sites and other local businesses)
The project will provide employment opportunities throughout the Adventure Tourism and allied sectors within North Wales. The Welsh language, culture, and heritage will be promoted by offering an insight to the cultural heritage along the route of an eBus and providing historical context on the slate landscape in North Wales, as well as offer a means for visitors to engage with the landscape in a different way. The project will prioritise environmental sustainability with a decarbonisation strategy which will provide a sustainable alternative for visitors wishing to visit North Wales.
Project Benefits Summary
• 96 Direct FTE jobs.
• Cumulative gross GVA of £24m over 10 years from direct jobs for the North Wales economy.
• Support 220 (net) indirect FTE jobs in the tourism industry and supply chain in North Wales (meaning £54m of GVA contribution over 10 years).
• Revenue of £61.7m over 10 years.
• Biodiversity enhancement.
• Reduction of operational carbon emissions through sustainable transport on site and through taking private cars off the road.
• Provide a Local Benefits Scheme developed following engagement with the local communities.
Introduction to Ambition North Wales and the Growth Deal
The North Wales Growth Deal key objectives is to create new jobs and generate inward investment within the region.
The Responsible Adventure project lies under the Agri-food and Tourism Programme, one of the five programmes that sit under the Growth Deal. This programme will promote and support employment and training in the Agri-food and Tourism sectors, building on world-leading skills and expertise already established within the region.
Programme Objectives
- Objective: To create a sustainable and globally competitive position for North Wales in the agri-food and tourism sectors.
- Investment: The programme aims to deliver a total investment of between £37 million and £45 million by 2036.
Funding
Funding from the project comes from two different sources. 63% of the project will be funded directly by Zip World.
Growth Deal funding - £6.2m
Private Funding (Zip World) – £10.5m
Total Investment - £16.7m
Overview of the Better Business Case Process
To access Growth Deal funding, a project must follow the HM Treasury-approved Better Business Case (BBC) process, based on the Five Case Model and subject to structured assurance.
The BBC process ensures public investments deliver value for money and align with strategic objectives. It follows three stages: Strategic Outline Case (SOC) to establish need and explore options, Outline Business Case (OBC) to refine the preferred option, and Full Business Case (FBC) to finalise procurement, governance, and funding. Each stage undergoes review to ensure compliance and feasibility.
This structured approach strengthens investment decisions, manages risks, and ensures projects contribute to policy goals. It supports transparency and accountability, with the North Wales Economic Ambition Board approving the Project Business Case at key decision points.
The Responsible Adventure project is currently preparing the Full Business Case.
Summary of Progress to Date
We are pleased to report that the Responsible Adventure project recently received approval for the Outline Business Case (OBC). This key milestone marks a crucial step forward in our project timeline. The OBC includes assurances that the project aligns with regional and national policy objectives, strategies and justifications for the preferred project and procurement options as well as signifying that the project has met necessary requirements and is deemed viable to progress to the Full Business Case.
In developing the the SOC and the OBC, the project team, alongside Ambition North Wales has completed several critical process activities, including the delivery of five
Better Business Case workshops. Each workshop had a different focus based on the cases within the business case:
the case for investment, assess and refine options for each project element, identify risks, procurement, and strengthen decision-making before funding approval.
The project also undertook a Welsh Government Gateway 2 Review assurance review, in which sixteen key stakeholders were interviewed by external reviewers and asked about their ideas, concerns and expectations for the project. The review culminated in a report which highlighted key risks and recommendations for the project. Gateway reviews are scored on a 5-point scale from Red to Green. The project obtained an Amber rating for the review which allowed it to progress to submitting the Outline Business Case following addressing critical recommendations.
Next Steps
Looking ahead, the focus will shift to the next phase to develop the Full Business Case (FBC), which involves obtaining planning approvals, detailed design and completing procurement.
Business case development
Prior to submitting the Full Business Case the North Wales Economic Ambition Board (NWEAB), the project must address three specific requirements related to the project:
• Provide a Local Benefits Scheme developed following engagement with the local communities;
• Prepare a Strategy and operational principles for the e-bus;
• Provide a progress report on the Engagement Plan
Planning
Obtaining planning permission for the different elements of the project is crucial to the success of the project. We have engaged with the consenting authority and advisory bodies in respect to planning applications for nearly two years to ensure that the project builds do not have a negative impact on the the slate landscape.
Planning application for the Swing is currently live, whilst we have submitted pre-applications for the Cable Car and Slate Explorer at Llechwedd.
Full details on live planning applications can be seen on the Cyngor Gwynedd website.
Stakeholder engagement
We have developed a stakeholder engagement plan as part of the OBC process, and can confirm that delivery of the plan has began. We do however, acknowledge that further engagement is needed with local businesses and stakeholders which will be critical for the project to be successful. The plan will evolve, and we will report on progression to the Economic Ambition Board on a regular basis.
Community and Regional benefits
In alignment with North Wales Ambition Board requirements, Zip World is actively enhancing how we communicate our community and local business impact while identifying new value-creation opportunities through our Responsible Adventure Project. Our targeted stakeholder engagement process is designed to develop meaningful strategies that maximize regional benefits within our existing operational footprint.
Newsletter - a progress update will be shared on a regular basis as the project progresses.
Meetings – as part of the stakeholder engagement plan update, we will be extending invitations with stakeholders for meetings to discuss the project in a more structured manner. We also encourage stakeholders to contact the project team to instigate any further discussion.
eBus Working Group -As part of the detailed design for the eBus, we are pleased to share that we are looking to establish an eBus working group, the purpose of which is to collaboratively design and implement an eBus network that enhances visitor
experiences. An Expression of Interest (EOI) is being developed for the purpose of identifying influential stakeholders as members for the working group.
Procurement
We are working with Ambition North Wales to develop the best procurement route for each element of the project. Any documentation pertinent to procurement for the project can be seen on Zip World’s Sell2Wales profile. Procurement for each element will follow Ambition North Wales procurement guidelines as well as UK and Welsh Government procurement principles.
Conclusion
We are grateful for the continued support and commitment from all our stakeholders in the progression of the project as we progress the Full Business Case.
The progress made so far would not have been possible without your feedback, contributions and challenges. We remain dedicated to achieving the project's goals and deliver positive outcomes for all stakeholders and look forward to your continued interest and involvement in the project.
Trosolwg Prosiect Anturiaethau Cyfrifol
Amcan cyffredinol y prosiect Anturiaethau Cyfrifol yw hyrwyddo Gogledd Cymru fel ardal fydd yn arwain mewn twristiaeth gynaliadwy. Ei nod yw denu ymwelwyr ychwanegol mewn modd sy'n amgylcheddol gynaliadwy ac sy'n ystyriol o gymunedau lleol trwy wneud y mwyaf o'r buddion cymdeithasol, economaidd a diwylliannol i'r rhanbarth.
Mae hwn yn brosiect aml-elfen sy'n rhan o becyn cynaliadwy ac eco-dwristiaeth i ddatblygu arlwy newydd yn nhirwedd Gogledd Cymru. Mae hyn yn cynnwys:
- Car Cebl (Zip World Llechwedd)
- Cartiau Gwyllt (Zip World Llechwedd)
- Siglen (Zip World Chwarel Penrhyn)
- Rhwydwaith eFws (sy'n cysylltu Hybiau Trafnidiaeth Rhanbarthol â safleoedd Zip World a busnesau lleol eraill)
Bydd y prosiect yn darparu cyfleoedd cyflogaeth ar draws y sector Twristiaeth Antur a sectorau eraill perthnasol yng Ngogledd Cymru. Bydd y prosiect yn hyrwyddo'r Gymraeg yn ogystal â diwylliant a threftadaeth yr ardal llechi drwy gynnig mewnwelediad i’r ardal ar hyd llwybrau’r eFws a darparu cyd-destun hanesyddol ar dirwedd llechi Gogledd Cymru. Bydd elfennau o’r prosiect hefyd yn cynnig modd i ymwelwyr gysylltu â’r dirwedd mewn ffordd wahanol. Bydd y prosiect yn blaenoriaethu cynaliadwyedd amgylcheddol gyda strategaeth datgarboneiddio a fydd yn rhoi dewis cynaliadwy amgen i ymwelwyr sy'n dymuno ymweld â Gogledd Cymru.
Crynodeb o Fuddion y Prosiect
• 96 o swyddi (cyfwerth ag amser Llawn (FTE)) uniongyrchol.
• GVA gros cronnus o £24m dros 10 mlynedd o swyddi uniongyrchol i economi Gogledd Cymru.
• Cefnogi 220 (net) o swyddi FTE anuniongyrchol yn y diwydiant twristiaeth a'r gadwyn gyflenwi yng Ngogledd Cymru (sy'n golygu £54m o gyfraniad GVA dros 10 mlynedd).
• Refeniw o £61.7m dros 10 mlynedd.
• Gwella bioamrywiaeth.
• Lleihau allyriadau carbon gweithredol drwy drafnidiaeth gynaliadwy ar y safle a thrwy dynnu ceir preifat oddi ar y ffordd.
• Darparu Cynllun Buddion Lleol a ddatblygir yn dilyn ymgysylltu â'r cymunedau lleol.
Cyflwyniad i Uchelgais Gogledd Cymru a'r Cynllun Twf
Amcanion allweddol Cynllun Twf Gogledd Cymru yw creu swyddi newydd a chynhyrchu mewnfuddsoddiad o fewn y rhanbarth.
Mae'r prosiect Anturiaethau Cyfrifol yn rhan o'r Rhaglen Bwyd-amaeth a Thwristiaeth, sef un o'r pum rhaglen sy'n rhan o'r Cynllun Twf. Bydd y rhaglen yn hyrwyddo ac yn cefnogi cyflogaeth a hyfforddiant yn y sectorau Bwyd-amaeth a Thwristiaeth, gan adeiladu ar sgiliau ac arbenigedd sydd eisoes wedi'u sefydlu yn y rhanbarth.
Amcanion y Rhaglen
1. Amcan: Bydd yn darparu cyfleusterau sy’n sicrhau safle cynaliadwy a chystadleuol yn fyd-eang i’r rhanbarth
2. Buddsoddiad: Nod y rhaglen yw sicrhau cyfanswm buddsoddiad o rhwng £37 miliwn a £45 miliwn erbyn 2036.
Cyllid
Daw'r cyllid ar gyfer y prosiect o ddwy ffynhonnell wahanol. Bydd 63% o'r prosiect yn cael ei ariannu'n uniongyrchol gan Zip World.
Cyllid y Cynllun Twf - £6.2m
Cyllid Preifat (Zip World) – £10.5m
Cyfanswm y buddsoddiad - £16.7m
Trosolwg o'r Broses Achos Busnes Gwell
Er mwyn cael mynediad at gyllid y Cynllun Twf, rhaid i’r prosiect ddilyn proses Achos Busnes Gwell (BBC) a gymeradwyir gan Drysorlys EF, yn seiliedig ar y Model Pum Achos ac yn amodol ar broses sicrwydd strwythuredig.
Mae proses y BBC yn sicrhau bod buddsoddiadau cyhoeddus yn rhoi gwerth am arian ac yn gyson ag amcanion strategol. Mae’n dilyn tri cham: Achos Amlinellol Strategol (SOC) i sefydlu angen ac archwilio opsiynau, Achos Busnes Amlinellol (OBC) i fireinio’r opsiwn a ffefrir, ac Achos Busnes Llawn (FBC) i gwblhau caffael, llywodraethu a chyllid. Mae pob cam yn cael ei adolygu i sicrhau cydymffurfiaeth ac ymarferoldeb.
Mae'r dull strwythuredig hwn yn cryfhau penderfyniadau buddsoddi, yn rheoli risgiau, ac yn sicrhau bod prosiectau'n cyfrannu at nodau polisi. Mae’n cefnogi tryloywder ac atebolrwydd, gyda Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru yn cymeradwyo Achos Busnes y Prosiect ar adegau penderfynu allweddol.
Mae'r prosiect Anturiaethau Cyfrifol wrthi'n paratoi'r Achos Busnes Llawn.
Crynodeb o'r cynnydd hyd yn hyn
Rydym yn falch o adrodd bod y prosiect Anturiaethau Cyfrifol wedi derbyn cymeradwyaeth yn ddiweddar ar gyfer yr Achos Busnes Amlinellol (OBC). Mae'r garreg filltir allweddol hon yn nodi cam hollbwysig ymlaen yn llinell amser ein prosiect. Mae'r Achos Busnes Amlinellol yn cynnwys sicrwydd bod y prosiect yn cyd-fynd ag amcanion polisi a strategaethau rhanbarthol a chenedlaethol. Mae’n rhoi cyfiawnhad dros y prosiect a ffefrir a’r opsiynau caffael yn ogystal â sicrhau bod y prosiect wedi bodloni’r gofynion angenrheidiol ac y bernir ei fod yn ddichonadwy i symud ymlaen i’r Achos Busnes Llawn.
Wrth ddatblygu'r SOC a'r OBC, mae tîm y prosiect, ochr yn ochr ag Uchelgais Gogledd Cymru, wedi cwblhau nifer o weithgareddau proses hollbwysig, gan gynnwys darparu pum gweithdy Achos Busnes Gwell. Roedd gan bob gweithdy ffocws gwahanol yn seiliedig ar yr achosion yn yr achos busnes:
yr achos dros fuddsoddi, asesu a mireinio opsiynau ar gyfer pob elfen o’r prosiect, adnabod risgiau, caffael, a chryfhau’r broses o wneud penderfyniadau cyn cymeradwyo cyllid.
Cynhaliodd y prosiect hefyd adolygiad sicrwydd (Adolygiad Porth 2 Llywodraeth Cymru), lle cafodd nifer o randdeiliaid allweddol eu cyfweld gan adolygwyr allanol ac fe’u holwyd am eu syniadau, eu pryderon a’u disgwyliadau ar gyfer y prosiect. Daeth yr adolygiad i ben gydag adroddiad a amlygodd risgiau allweddol ac argymhellion ar gyfer y prosiect. Mae’r adolygiadau porth hyn yn cael eu sgorio ar raddfa 5 pwynt o “Goch” i “Wyrdd”. Cafodd y prosiect sgôr “oren” ar gyfer yr adolygiad a oedd yn caniatáu iddo symud ymlaen i gyflwyno’r Achos Busnes Amlinellol ar ôl mynd i’r afael ag argymhellion hollbwysig.
Y camau nesaf
Gan edrych i'r dyfodol, bydd y ffocws yn symud i'r cam nesaf i ddatblygu'r Achos Busnes Llawn (FBC), sy'n cynnwys sicrhau caniatâd cynllunio, dylunio manwl a chwblhau caffael.
Datblygu achos busnes
Cyn cyflwyno’r Achos Busnes Llawn i Fwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru, rhaid i’r prosiect fynd i’r afael â thri gofyn penodol sy’n ymwneud â’r prosiect:
• Darparu Cynllun Buddion Lleol a ddatblygir yn dilyn ymgysylltu â'r cymunedau lleol;
• Paratoi Strategaeth ac egwyddorion gweithredol ar gyfer yr eFws;
• Darparu adroddiad cynnydd ar y Cynllun Ymgysylltu
Cynllunio
Mae sicrhau caniatâd cynllunio ar gyfer gwahanol elfennau'r prosiect yn hanfodol i lwyddiant y prosiect. Rydym wedi ymgysylltu â’r awdurdod cydsynio a chyrff cynghori
ynglŷn â cheisiadau cynllunio ers bron i ddwy flynedd i sicrhau nad yw’r gwaith adeiladu ar y prosiect yn cael effaith andwyol ar y dirwedd llechi.
Mae cais cynllunio ar gyfer y siglen yn fyw ar hyn o bryd, ac rydym wedi cyflwyno ceisiadau cyn cynllunio ar gyfer y car Cebl a’r Cartiau Gwyllt yn Llechwedd.
Mae manylion llawn am geisiadau cynllunio byw i'w gweld ar wefan Cyngor Gwynedd.
Ymgysylltu â rhanddeiliaid
Rydym wedi datblygu cynllun ymgysylltu â rhanddeiliaid fel rhan o’r broses OBC, a gallwn gadarnhau bod y cynllun wedi dechrau. Fodd bynnag, rydym yn cydnabod bod angen ymgysylltu ymhellach â busnesau a rhanddeiliaid lleol. Mae hyn yn hanfodol i'r prosiect fod yn llwyddiannus. Bydd y cynllun yn esblygu, a byddwn yn adrodd ar gynnydd i’r Bwrdd Uchelgais Economaidd yn rheolaidd.
Buddiannau Cymunedol a Rhanbarthol
Yn unol â gofynion Bwrdd Uchelgais Gogledd Cymru, mae Zip World wrthi'n gwella sut rydym yn cyfleu ein heffaith ar y gymuned a busnesau lleol wrth nodi cyfleoedd newydd i greu gwerth drwy ein Prosiect Anturiaethau Cyfrifol. Mae ein proses ymgysylltu â rhanddeiliaid wedi'i chynllunio i ddatblygu strategaethau ystyrlon sy'n sicrhau'r buddion rhanbarthol mwyaf posibl yn ein hôl troed gweithredol presennol.
Cylchlythyr - bydd diweddariad cynnydd yn cael ei rannu'n rheolaidd wrth i'r prosiect esblygu.
Cyfarfodydd – fel rhan o ddiweddariad y cynllun ymgysylltu â rhanddeiliaid, byddwn yn estyn gwahoddiadau gyda rhanddeiliaid i gyfarfodydd i drafod y prosiect mewn modd mwy strwythuredig. Rydym hefyd yn annog rhanddeiliaid i gysylltu â thîm y prosiect i gychwyn trafodaethau pellach.
Gweithgor eFws - Fel rhan o gynllunio manwl yr eFws, rydym yn falch o rannu ein bod yn bwriadu sefydlu gweithgor eFws, a'i ddiben yw cyd-gynllunio a gweithredu rhwydwaith eFws sy'n gwella profiadau ymwelwyr. Mae Datganiad o Ddiddordeb (EOI) yn cael ei ddatblygu er mwyn adnabod rhanddeiliaid dylanwadol fel aelodau ar gyfer y gweithgor.
Caffael
Rydym yn gweithio gydag Uchelgais Gogledd Cymru i ddatblygu’r llwybr caffael gorau ar gyfer pob elfen o’r prosiect. Gellir gweld unrhyw ddogfennaeth sy’n berthnasol i gaffael ar gyfer y prosiect ar broffil GwerthwchiGymru Zip World. Bydd caffael ar gyfer pob elfen yn dilyn canllawiau caffael Uchelgais Gogledd Cymru yn ogystal ag egwyddorion caffael Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru.
Casgliad
Rydym yn ddiolchgar am y gefnogaeth a'r ymrwymiad parhaus gan ein holl randdeiliaid wrth i ni symud ymlaen â'r Achos Busnes Llawn.
Ni fyddai'r cynnydd a wnaed hyd yma wedi bod yn bosibl heb eich adborth, eich cyfraniadau a’ch heriau. Rydym yn parhau i fod yn ymrwymedig i gyflawni nodau'r prosiect a sicrhau canlyniadau cadarnhaol i'r holl randdeiliaid ac edrychwn ymlaen at eich diddordeb a'ch cyfranogiad parhaus yn y prosiect.
Cofiwch bod croeso i chi gysylltu os oes gennych unrhyw gwestiynau neu os oes angen rhagor o wybodaeth arnoch.