Add to your experience
Bundle options
{{bundle.name}}
{{bundle.bundlepopdesc}}
Upgrade to the {{package.title}}
Select a {{adventure.title}} time session
{{package.meta.diffSiteDisc}}
Time Session
Sorry, there are no time sessions available for this day.

No available time slots?
Why not try Titan 2 instead.
Time Sessions
Sorry, there are no time sessions available for this day.

No available time slots?
Why not try Titan 2 instead.
Bwyty Blondin

Bwyty bistro modern gyda llu o ddanteithion lleol
Mae Bwyty Blondin wedi'i leoli yn Zip World Chwarel y Penrhyn ym Methesda. Mae’n fwyty bistro modern sy’n cynnig llu o ddanteithion lleol.
Mae enw Bwyty Blondin yn dathlu offer blaengar a ddatblygwyd yn chwareli llechi Cymru, ac mae’n berthnasol i antur Velocity 2 yn Chwarel y Penrhyn heddiw. Rhaffordd (cyfres o raffau) yn yr awyr oedd y ‘Blondin’, a gafodd ei datblygu i gludo llechi yn chwareli agored Gogledd Cymru. Cafodd ei henwi ar ôl Charles Blondin, a oedd yn adnabyddus am gerdded ar raffau yn yr 18fed ganrif. Roedd y rhaffyrdd yma’n cael eu defnyddio ledled Chwarel y Penrhyn ac yn cael eu galw’n ‘Jerry Ms’.
CERDYN FFYDDLONDEB
Rydym yn falch o gyflwyno cerdyn ffyddlondeb newydd ar gyfer bwyd a diod i'w ddefnyddio ym Mwyty Blondin yn Chwarel y Penrhyn, Bethesda, ac yn Fforest Caffi, Betws-y-coed.
Byddwch chi'n cael stamp bob tro y byddwch chi'n prynu bwyd neu ddiod yn y naill leoliad neu’r llall, ac ar eich seithfed ymweliad fe gewch chi ddiod boeth a chacen am ddim!
Os nad ydych chi wedi cael cerdyn ffyddlondeb eto, gallwch chi gael un y tro nesaf y byddwch chi’n ymweld ag un o’r lleoliadau.

TELERAU AC AMODAU
- Rhaid cyflwyno’r cerdyn ffyddlondeb ar adeg prynu.
- Gallwch gasglu stampiau cerdyn ffyddlondeb pan fyddwch chi'n prynu bwyd a diod yn Fforest Caffi, Fforest Coffi a Bwyty Blondin.
- Ni ellir cyfnewid stampiau am arian parod neu unrhyw nwyddau eraill Zip World.
- Rydym yn cadw’r hawl i eithrio rhai nwyddau o'r cynllun cerdyn ffyddlondeb.
- Nid oes raid gwario isafswm.
- Rhoddir un stamp cerdyn ffyddlondeb ar adeg pob gwariant.
- Unwaith y bydd y person sydd â’r cerdyn ffyddlondeb wedi casglu 6 stamp unigol, bydd yn gallu cael diod boeth neu oer o’i ddewis, yn rhad ac am ddim.
- Mae’r cerdyn ffyddlondeb yn parhau’n eiddo i Zip World Ltd.
- Mae Zip World Ltd yn cadw’r hawl i ddiwygio neu dynnu'r cerdyn a’r cynllun yn ôl heb rybudd.
- Ni ellir dal Zip World Ltd yn gyfrifol am gardiau sy’n cael eu colli neu eu dwyn.
- I gael eich 20% o ddisgownt oddi ar fwydlenni'r Gaeaf yng Nghaffi Fforest neu fwyty Blondin, dangoswch eich cerdyn ffyddlondeb pan fyddwch chi'n archebu ac yn talu.
- Mae’r 20% o ddisgownt oddi ar fwydlen y gaeaf yn cynnwys bwyd a diod.
- Bydd yr 20% o ddisgownt oddi ar fwydlen y gaeaf yn dod i ben ar 31/3/19.
- Nid oes modd defnyddio'r 20% o ddisgownt gydag unrhyw gynnig neu ddisgownt arall.
Lawrlwythwch Chwarel Pizza Menu
Blondin Restaurant
Zip World Penrhyn Quarry, Bethesda
LL57 4YG