Add to your experience
Bundle options
{{bundle.name}}
{{bundle.bundlepopdesc}}
Upgrade to the {{package.title}}
Select a {{adventure.title}} time session
{{package.meta.diffSiteDisc}}
Time Session
Time Sessions
Fforest Caffi Zip World
Mwynhewch Fforest Caffi Zip World, ar agor bob dydd!
Mae Fforest Caffi ar agor 7 diwrnod yr wythnos, felly beth am fynd yno i ymlacio a chael tamaid i'w fwyta.
Fforest Caffi Zip World
Rydym ar agor 7 diwrnod yr wythnos erbyn hyn, ac yn falch o groesawu pobl â’u cŵn, cerddwyr, pobl sy'n pasio heibio, a’n holl ymwelwyr arferol, o blant sy'n mwynhau parti penblwydd i drigolion lleol yn dod am baned.
I gael rhagor o wybodaeth, darllenwch ein blog diweddaraf, neu edrychwch ar ein tudalen Facebook.
Darllenwch ein bwydlen gyfredol, bydd fersiwn y gaeaf ar gael cyn bo hir!
CERDYN FFYDDLONDEB
Rydym yn falch o gyflwyno cerdyn ffyddlondeb newydd ar gyfer bwyd a diod i'w ddefnyddio ym Mwyty Blondin yn Chwarel y Penrhyn, Bethesda, ac yn Fforest Caffi, Betws-y-coed.
Byddwch chi'n cael stamp bob tro y byddwch chi'n prynu bwyd neu ddiod yn y naill leoliad neu’r llall, ac ar eich seithfed ymweliad fe gewch chi ddiod boeth a chacen am ddim!
Os nad ydych chi wedi cael cerdyn ffyddlondeb eto, gallwch chi gael un y tro nesaf y byddwch chi’n ymweld ag un o’r lleoliadau.

TELERAU AC AMODAU
- Rhaid cyflwyno’r cerdyn ffyddlondeb ar adeg prynu.
- Gallwch gasglu stampiau cerdyn ffyddlondeb pan fyddwch chi'n prynu bwyd a diod yn Fforest Caffi, Fforest Coffi a Bwyty Blondin.
- Ni ellir cyfnewid stampiau am arian parod neu unrhyw nwyddau eraill Zip World.
- Rydym yn cadw’r hawl i eithrio rhai nwyddau o'r cynllun cerdyn ffyddlondeb.
- Nid oes raid gwario isafswm.
- Rhoddir un stamp cerdyn ffyddlondeb ar adeg pob gwariant.
- Unwaith y bydd y person sydd â’r cerdyn ffyddlondeb wedi casglu 6 stamp unigol, bydd yn gallu cael diod boeth neu oer o’i ddewis, yn rhad ac am ddim.
- Mae’r cerdyn ffyddlondeb yn parhau’n eiddo i Zip World Ltd.
- Mae Zip World Ltd yn cadw’r hawl i ddiwygio neu dynnu'r cerdyn a’r cynllun yn ôl heb rybudd.
- Ni ellir dal Zip World Ltd yn gyfrifol am gardiau sy’n cael eu colli neu eu dwyn.
- I gael eich 20% o ddisgownt oddi ar fwydlenni'r Gaeaf yng Nghaffi Fforest neu fwyty Blondin, dangoswch eich cerdyn ffyddlondeb pan fyddwch chi'n archebu ac yn talu.
- Mae’r 20% o ddisgownt oddi ar fwydlen y gaeaf yn cynnwys bwyd a diod.
- Bydd yr 20% o ddisgownt oddi ar fwydlen y gaeaf yn dod i ben ar 31/3/19.
- Nid oes modd defnyddio'r 20% o ddisgownt gydag unrhyw gynnig neu ddisgownt arall.
Lawrlwythwch Fforest Main Menu - EN
Partïon Plant yn Fforest Caffi Zip World
Fforest Caffi yw’r lle perffaith i gynnal partïon plant, gyda llu o anturiaethau i'w diddanu drwy'r dydd. Ni chodir tâl am yr ystafell, a gallwn ddarparu ar gyfer rhwng 12 a 30 o blant.
Mwy o wybodaeth am Bartïon Plant