blas ar antur yn Betws-y-Coed
Mewn coetir trawiadol yng nghesail Dyffryn Conwy yng Ngogledd Cymru, ger pentref eiconig Betws-y-coed, mae llu o anturiaethau a danteithion blasus yn aros amdanoch chi. Mae digon o anturiaethau i ddiddanu’r teulu cyfan drwy’r dydd: gallwch ddewis o blith y Fforest Coaster, yr unig reid mynyddig o’i fath yn y DU; cael hwyl a sbri yn bownsio ar y Treetop Nets; neu fynd ar wifren wib Zip Safari neu ar gyrsiau antur Tree Hoppers i fyny fry yn y coed. Hefyd, fe allech chi roi cynnig ar Skyride, siglen enfawr uchaf Ewrop, os ydych chi’n ddigon dewr!