blas ar antur yn Llechwedd
Mae Slate Caverns yn gyforiog o hanes mwyngloddio llechi Gogledd Cymru, ac erbyn hyn mae anturiaethau uwch ben ac o dan y ddaear i’w cael yno. Ceir golygfeydd ar draws Eryri o ben Titan, lle gallwch hedfan drwy’r chwarel o hanner uchder yr Wyddfa (1080m), i faes chwarae tanddaearol unigryw Bounce Below, ac i Caverns, sef cwrs gwifrau gwib ac antur anhygoel o dan y ddaear. Mae rhywbeth i bawb ei fwynhau ym mhob tywydd.