blas ar antur yn Chwarel y Penrhyn
Mae Chwarel y Penrhyn ger mynyddoedd trawiadol Eryri yng Ngogledd Cymru, a hon oedd y chwarel lechi fwyaf yn y byd ar un adeg. Nawr mae’r chwarel yn gartref i'r wifren wib gyflymaf y byd, Velocity, lle gallwch hedfan 500m uwchlaw llyn glas llachar y chwarel. Cewch ddysgu am hanes y lleoliad ar Daith Chwarel y Penrhyn neu wylio’r antur o Fwyty Blondin. Os ydych chi’n chwilio am leoliad corfforaethol ychydig yn wahanol, mae'r Galeri yn fan cyfarfod sydd â golygfa heb ei hail.